pic01

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion 2024

 


Gŵyl Ban Geltaidd 2024

Hon fydd y 50fed Gwyl Ban Geltaidd. Cynhelir hi yn Carlow Iwerddon.

Bydd y llywydd cenedlaethol sef Catrin Thomas o Gymru yn croesawu cynrychiolwyr o Llydaw, Ynys Manaw, Iwerddon, Cernyw a’r Alban.

Mae’r gwaith trefnu wedi cychwyn ers Awst 2023 yn Iwerddon a Chymru. Fel arfer bydd y Cymry yno yn eu cannoedd. Unigolion dawnus fel Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw yn beirniadu ac yn ein diddori ar eu telynau ac yn gefnogaeth iddynt fydd y cantor Ieuan ap Sion o Rhesycae Sir y Fflint.

Mae gennym dalent ifanc o Ddyffryn Clwyd yn ein cynrychiolu yn y maes canu traddodiadol – Branwen Jones o Lanbedr ger Rhuthun – enillydd cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol Boduan eleni a’r Wyl Gerdd Dant , hyderwn y bydd dau arall yn ymuno a hi yn y gystadleuaeth safonol yma yn yr Wyl eleni. Hyderwn y bydd Y Brodyr Magee o Ynys Mon yn ein cynrychioli yn y gystadleuaeth canu grwp traddodiadol ac am y tro cyntaf bydd y dau frawd o Betws y Coed sef Lo-fi Jones a dau arall yn gefn iddynt yn cystadlu yn yr adran yma.

Mae y Grwp Dawns Tipyn O Bobpeth wedi cefnogi yr Wyl am flynyddoedd ac rydym yn edrych ymlaen i’w gweld yn dawnsio yn oseiddig yn yr adran ddawns ac efallai y cawn un parti dawns arall yno i gystadlu – Dawnswyr Delyn – byw mewn gobaith.

Mae adran y corau yn un adran lle mae y Cymry yn serenu – naw cor yn mynychu – ardderchog – Côr Llundain, Côr Meibion y Penrhyn, Côr Merched ‘Narfon. Côr Meibion y Ddwylan, Lleisiau Migneidd, Côr Merched Lleisiau’r Cwm, Cor Llanbobman, Cor Eisceifiog ac un arall heb gadarnhau eto.

Eleni eto mae gennym fws o gefnogwyr – ychydig o le ar ol arni – oes gennych ddiddordeb cysyllter a mi – Arwel – rhif ffon 07813550998 neu arwellroberts@tiscali.co.uk.


Gŵyl Ban Geltaidd 2024

Yn y flwyddyn 2024 fydd yr Ŵyl yn dychwelyd i Carlow
Ebrill 2ail i'r 7fed 2024.


To view our News archive dating back to 2011 please - click here