pic01

News & Events

FRIENDS (Welsh only available...)

Gwyl Ban Geltaidd 2020.
CEATHARLACH ( CARLOW) EBRILL 14 – 19.


Byddwn yn ymweld â’r dref uchod. Teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill 14ddeg ac mae gennym ddewis o leoliadau i chi aros am bump noson. Bws cyffyrddus gyda cyfleusterau toiled arni. Cysyllter os oes gennych gyflwr meddygol, fyddai’n effeithio ar leoliad eich ystafell.

Costau y daith ( prisiau’n amodol, fe allent newid oherwydd ansicrwydd ariannol )
Gwesty’r 7 Derwen – Gwely a Brecwast. Dau yn rhannu y person £490 .Sengl - £600.
Red Setter Town House – ystafelloedd dau yn rhannu y person £370. Sengl - £410.
The Clink Boutique Hotel and Eatery – ystafelloedd i ddau berson yn rhannu - £410 y person
ystafelloedd i dri yn rhannu £405 y person,ystafelloedd i bedwar yn rhannu - £350 y person.
Racey Byrne – The Plough - ystafelloedd dau yn rhannu y person - £380.

Mae’r costau uchod yn cynnwys:
Teithio ar y bws ar long o Gymru i Ceatharlach ac yn ôl.
Pum noson gwely a brecwast.
Tocyn wythnos i holl weithgareddau Ŵyl.
Cildwrn i’r gyrrwr.

Manylion y daith.
Gadael Llanelwy am chwech bore Mawrth – 14ddeg o Ebrill ( trefnir y mannau codi eto.) Teithio am Gaergybi ar long 8:55 a.m i Ddulyn. Cyrraedd Dulyn tua un y pnawn ac ymlaen am dref yr Ŵyl. Aros am bum noson. Bydd cyfle i ymweld a gwahanol atyniadau yn yr ardal ar y bws yn ystod yr wythnos. Cychwyn am adref tua deg y bore Sul os bydd y cwmni bws wedi archebu lle ar y llong ganol pnawn, neu fe all fod yn llong hwyrach fydd yn cyrraedd Caergybi tua hanner nos.

Ernes :- £50 a’r gweddill erbyn canol Chwefror, pob siec yn daladwy I MUDIAD CYMRU GŴYL BAN GELTAIDD. Mwy o fanylion gan Arwel, Fachwen Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP, ffon – 01745 590869 / 07813550998 - arwellroberts@tiscali.co.uk neu Tegwyn, Penbedw, Ffordd y Bryn, LLanelwy, LL17 0DD – Ffon 01745 583612.
Os y byddwch wedi talu’n llawn ac yn tynnu’n ôl oddi fewn i’r bythefnos cyn teithio anodd iawn fydd cyflwyno ad-daliad. Cofiwch fod gennych angen yswiriant teithio.


PosterCome along to Rhuddlan.

 

Click here for more information


Yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Letterkenny eto eleni (Welsh only available...)image

Unwaith eto eleni yn Letterkenny, Swydd Donegal, yng nghornel Ogledd Orllewinol Gweriniaeth Iwerddon y cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn syth ar ôl dathlu’r Pasg. Teithiodd llond bws ohonom o Ogledd Cymru â’r daith o Gaergybi i Letterkenny’n cymryd tua pedair awr a hanner! Ta waeth, cawsom dywydd braf i gwblhau’r siwrna a’r croeso wedi inni gyrraedd yn dwyngalon.

Yn y Noson Agoriadol ar y nos Fawrth, cynrychiolwyd Cymru gan Ieuan ap Sion yn canu’r Anthem Geltaidd, Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw ar eu telynnau a’r Brodyr Magee o Gaergybi. Cynrychiolaeth deilwng iawn. Diolch i chi.

Roedd pump côr o Gymru yn rhan o’r Ŵyl - Côr y Brythoniaid, Meibion Marchan o ardal Rhuthun, Côr Glanaethwy ( y rhieni a ffrindiau), Côr y Ddinas o Lundain a Chôr Cantilena. Daeth bob un o’r corau i’r brîg mewn gwahanol gystadlaethau. Llongyfarchiadau i chi i gyd. Enillodd Côr Cantilena y Gystadleuaeth Agored i Gorau ac hefyd nhw enillodd Gôr yr Ŵyl. Ardderchog. Côr newydd o bobl ifanc o Ddyffryn Conwy yw Côr Cantilena sydd wedi ei ffurfio i gystadlu’n yr Eisteddfod Genedlaethol eleni’n Llanrwst. Mae nhw’n chwip o gôr. Pob lwc i’r côr ac i’w harweinyddes frwyfrydig, Angharad Ellis.

Dyma fanylion y cystadlaethau corawl :-

Cystadleuaeth i Gorau Cymysg – 1. Côr Cantilena 2. Côr Glanaethwy
Cystadleuaeth i Gorau Merched – 1. Côr glanaethwy 2. Côr y Ddinas
Cystadleuaeth i Gorau Meibion – 1. Côr y Brythoniaid 2. Meibion Marchan
Cystadleuaeth i Gorau’n Canu Caneuon Traddodiadol – 1. Côr Glanaethwy 2. Côr Burach o’r Alban
Cystadleuaeth Agored i’r Holl Gorau – 1. Côr Cantilena 2. Côr y Brythoniaid
Y Perfformiad Gorau gan Gôr yn yr Ŵyl (Côr yr Ŵyl) – Côr Cantilena.

Gwych iawn a diolch i bob côr, eu harweinyddion a’u cyfeilyddion am gefnogi’r Ŵyl.

Enillydd Cystadleuaeth y Gân Werin Unigol unwaith eto eleni oedd Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Arfon gyda’i ddatganiad o’r Eneth Gadd ei Gwrthod a chyfansoddiad newydd o gân werin o’r enw Owain Lawgoch. Gwych. Enillodd y wobr gyntaf am Gyfansoddi Cân Werin Newydd. Da iawn ti Gwilym. Daeth Y Brodyr Magee yn ail yn y Gystadleuaeth Grŵp Gwerin. Diolch i chi hogia, da chi’n ffyddlon eich cefnogaeth i’r Ŵyl.

Yr Iwerddon enillodd Gystadleuaeth y Gân Ryngwladol gyda Gymru’n dynn ar eu sodlau, gyda un marc o wahaniaeth rhyngddynt. Yn cynrychioli Cymru y tro hwn oedd Elidyr Glyn a enillodd Cân i Gymru. Diolch Elidyr a’r grŵp Yr Ogiau.

Nid oedd cystadleuwyr i’r gystadleuaeth i Ddawnswyr Gwerin Unigol, ond yn y ddwy Gystadlaethau i Grwpiau Dawnsio Gwerin y Llydawyr ddaeth i’r brîg ar y ddau achlysur gyda Dawnswyr Tipyn o Bopeth yn ail da iddynt.

Roedd Tammy Jones, y gantores canu gwlad enwog o Landegai, a’i ffrind ar y daith hefo ni eleni. Canodd Tammy’n Noson y Cymry – roedd yn hyfryd clywed ei llais unwaith eto mor glir ac erioed. Mae’n dipyn o gymeriad! Diolch Tammy.

Aethom ar ddau drip yn ystod yr wythnos – un i Barc Cenedlaethol Glen Veigh lle y cerddais am filltiroedd! Roeddem y lwcus o’r tywydd – ‘lle i enaid gael llonydd’. Ymweliad arall oedd i Oleudy Penrhyn Fanad. Dim cymaint o lwc hefo’r tywydd y tro hwn – glaw mawr! – Mae golygfeydd gwych i’w gweld yno pan fo’r tywydd yn ffafriol! Ta waeth, cawsom fynd yn gynt am ginio blasus a chroeso cynnes iawn yn y ‘Lighthouse Tavern’ cyn rhuthro’n ôl ar gyfer Y Parêd drwy Stryd Fawr Letterkenny, ac erbyn hynny roedd wedi stopio bwrw!

Os fyddwch chi’n ymweld ag ardal Letterkenny ar eich gwyliau gwnewch bwynt o fynd am bryd i fwyty’r ‘Yellow Pepper’ ar waelod y Stryd Fawr. Chewch chi mo’ch siomi. Mae’r bwyd môr yn fendigedig yno!

To see more photos - click here


Elidyr Glyn enillydd Can i Gymru 2019 (Welsh only available...)

LLongyfarchiadau i Elidyr Glyn enillydd Can i Gymru 2019.


Diolch gan Cor Cytgan Rhuthun wedi ei llwyddiant yn yr Wyl yng Ngharlow 2017 (Welsh only available...)

I CHI fel pwyllgor mae'r diolch Arwel. Hawdd iawn oedd dod draw a chanu. Gennych chi oedd yr holl waith caled o flaen llaw, ac yn wir roedd yr holl drefniadau yn ardderchog ac yn sicrhau ein bod ninnau yn gallu mwynhau pob eiliad o'r wyl!
Ann, Morwen a Chôr Cytgan Clwyd


Gŵyl Ban Geltaidd 2019 (Welsh only available...)

Cefnogwyr a ffrindiau yr Ŵyl dewch draw i’r Eagles Llanrwst nos Sadwrn y 9fed o Fawrth. Cyfle i ymgomio ac i ganu – dewch a’ch ffrindiau gyda chi gyfeillion – swper yn £14.95. Diolch i Nan a Meurig am drefnu yr aduniad hwn.
Cyfle i drafod trefniadau yr Ŵyl eleni – teithio am Letterkenny ar y 23ain o Ebrill. Edrych yn ôl ar y Gŵyliau a fu – atgofion melys am An-daingle, Caetharlach, Gallim a Thralee!!

Pwy sydd yn rhydd?

Hwyl,

Arwel ac Awen


imageConcert to remember Meirion Hughes

 

Click here for more information


imagePan Celtic Festival 2018 photos

 

Click here to see more photos


Yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Letterkenny (Leitir Ceannain) yn 2018 (Welsh only available...)

Mae deuddeng mlynedd ers i’r Ŵyl ymweld â Letterkenny yn Nonegal ddiwethaf. Mae Letterkenny’n dref wledig sydd rhyw hanner awr mewn car o Derry yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n dref sydd bellach yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr o bob rhan o’r byd ac felly’n fangre digon llewyrchus.

Tywydd digon oer a glawog gawsom ni ar y cyfan, ond wnaeth hynny darfu dim ar ein mwynhâd. Teithiodd y llond bws arferol o Ogledd Cymru draw am Yr Ynys Werdd gan gyrraedd Letterkenny tua pump yr hwyr ar ôl taith o dros pedair awr yn y bws cyn cyrraedd pen ein taith.

Agorwyd yr Ŵyl ar y nos Fawrth yng Ngwesty’r Mount Errigal, lle roeddem ni’n aros. Cawsom agoriad teilwng i’r Ŵyl gyda’r Gwledydd Celtaidd yn rhoi blas inni o’r hyn oedd i ddod yn ystod yr wythnos mewn cerddoriaeth a chân. Cynrychiolwyd ni’r Cymry’n y seremoni gan Ieuan ap Sion yn canu’r Anthem Geltaidd yn wych gyda Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard yn cyfeilio iddo ar eu telynau. Aeth y telynorion ymlaen i’n swyno â chyfraniadau celfydd ar eu hofferynnau. Diolch o galon i’r tri ohonoch.

Dydd Mercher cawsom daith yn ôl i Derry sydd nepell o Letterkenny. Yn anffodus, roedd yn ddiwrnod digon gwlyb a gwyntog. Serch hynny, mentrodd nifer i gerdded waliau’r ddinas a thros y Bont Heddwch sy’n uno’r ddwy gymuned sydd bob ochr i’r Afon Foyle. Aeth eraill ohonom, llai mentrus ar y fath dywydd, i ymweld â’r Bogside ac Amgueddfa Derry Rydd cyn troi am y Ganolfan Treftadaeth gerllaw am ginio blasus – rhâd a da!

Bu rhai’n gallach efallai ac aros yn Letterkenny lle buont yn rhan o sesiwn dweud storiau o Gymru yn Llyfrgell Ganolog y dref. Cafwyd hwyl rhyfeddol yn ôl bob son gyda nifer o’r gwledydd celtaidd eraill yn dweud ambell i stori hefyd.

O dri’r prynhawn ymlaen roedd y Cystadlaethau Canu Gwerin i unigolion a grwpiau yn Theatr An Grianan yng nghanol y dref. Daeth Catrin Jones o Ynys Môn yn gyntaf ar y Gân Werin Unigol a Bethany Celyn o Ddinbych yn drydydd. Ond, nid dyna’r diwedd, enillodd Gwilym Bowen Rhys yr Unawd o Gân Werin Wreiddiol Newydd. Gwych iawn.

Yng Nghystadleuaeth y Grwpiau Gwerin, cipiwyd y wobr gyntaf i Grŵp Traddodiadol gan Grŵp Sir Fôn a’r Grŵp Gorau gyda Cân Newydd yn mynd i’r Brodyr Magee o Gaergybi. Da iawn Ynys Môn!

Yn ystod Dydd Iau aethom ar daith diwrnod ar draws Swydd Donegal ac anelu am arfordir y De Orllewin. I ddechrau fe stopio ni yn nhref fechan ARDARA sy’n ganolfan gwehyddu brethyn Donegal. Cawsom arddangosfa o’r gwehydd wrth ei waith ar ŵydd draddodiadol a disgrifiad o’r proses o droi’r gwlân yn ddilledyn gorffenedig. Hynod o ddiddorol. Prin oedd y rhai a brynodd ddilledyn yn y siop, er i ambell un brynu cap drudfawr o frethyn taclus i gadw eu pennau’n gynnes rhag yr oerfel! Roedd rhaid cael paned cyn teithio ‘mlaen heibio KILLYBEGS sy’n borthladd pysgota pwysig a phrysur.

Yn CARRICK cawsom ginio o gawl cartref a brechdannau cyn teithio ymhellach am yr arfordir a CHLOGWYNI SLEEVE LIAG. Ystyr ‘sleeve liag’ yw cerrig llyfn, gwastad. Roedd hynny’n amlwg o weld y clogwynni syth a llyfn! Roedd y golygfeydd o ben y clogwyni’n syfrdanol ac werth y daith hir yno. Mae’r clogwyni yma mor uchel a thrawiadol a Chlogwyni Moher yn Swydd Clare, ond ddim mor enwog efallai. Diwrnod gwerth chweil yn wir.

Noson Y Gân Rhyngwladol yw nos Iau. Cynhaliwyd y gystadlleuaeth yn Theatr An Grianan gyda grŵp Ceidwad y Gân o ardal Rhewl, Sir Ddinbych, yn ein cynrychioli. Ceidwad y Gân enillodd ‘Cân i Gymru’ eleni gyda cyfansoddiad Erfyl Owen ‘Cofio Hedd Wyn’. Mae’r grŵp ifanc hwn yn mynd o nerth i nerth ac yn gwneud mwy a mwy o’u canu drwy’r Gymraeg. Da iawn chi hogia a diolch am eich agwedd hawddgar, iachus tuag at bopeth. Edrychwn ‘mlaen at glywed mwy o’ch hanes yn y dyfodol.

Fore Gwener ni fu taith oherwydd iddi dywallt y glaw. I rai ohonom roedd yn gyfle i hamddena a chael brecwast hwyr cyn mynd i nofio dipyn ym mhwll nofio’r gwesty – er y buasem wedi gallu gwneud hynny y tu allan gan ei bod wedi bwrw cymaint!

Y cwestiwn mawr oedd ‘A fyddai’r Parêd drwy Stryd Fawr y dref yn digwydd ai peidio oherwydd y glaw? Ond, wyddoch chi beth, daeth ffenestr o haul yng nghanol y duwch ac fe gawsom ni Barêd Celtaidd o’r radd flaenaf. Roedd y Parêd yn llawn hwyl a miwsig gan gynrychiolwyr o’r Gwledydd Celtaidd. Gorffennodd Y Parêd yn y Ganolfan Siopa ar y Stryd Fawr lle cawsom, unwaith eto, glywed cerddoriaeth Geltaidd a chlywed canlyniad y Gystadleuaeth Fysgio a ddigwyddodd yn ystod y bore mewn mannau gwahanol ar y Stryd Fawr. Enillwyr y gystadleuaeth oedd Y Gwehilion (Grŵp Gwilym Bowen Rhys, Bethany Cleyn, Iestyn Tyne a chyfaill arall) gyda’r Brodyr Magee yn ail teilwng iddynt. Grŵp o Gernyw ddaeth yn drydydd. Cawsom gyfle i’w clywed i gyd a hynny o dan dô! Ardderchog yn wir. Roedd bwrlwm eu miwsig yn heintus. Diolch i’r ddau grŵp.

Yn anffodus, nid oedd Grwpiau Dawnsio Gwerin o unrhyw wlad yn cystadlu eleni. Roedd hyd yn oed y Llydawyr wedi dod a chantorion drosodd y flwyddyn yma yn hytrach na dawnswyr. Trueni mawr.

Am 7 yr hwyr ar y nos Wener, cynhaliwyd Cyngerdd y Corau yn Theatr An Grianan gyda pump côr o Gymru’n canu ynddo – Côrdydd o Gaerdydd, Eryrod Meirion o ardal Llanuwchllyn, Côr Dre a Chôr Narfon o Gaernarfon a Chôr Meibion y Ddwylan o Ynys Môn. Roedd gwrando ar y corau o’r holl wledydd celtaidd yn y theatr yn brofiad synhwyrus iawn.

Yna, i ddiweddu’r noson, cynhaliwyd Noson y Cymry yng Ngwesty’r Mount Errigal. Roedd yr holl gystadleuwyr wedi cyrraedd bellach – yn unigolion, grwpiau a chorau – i’n diddanu heb y boen o gystadlu. Noson wefreiddiol fel arfer a aeth ymlaen am oriau!

Dydd Sadwrn yw Diwrnod y Corau, ac, yn wir, dylem fod yn falch iawn o bob un o’n corau o Gymru. Dyma’r canlyniadau :- Côr Cymysg - 1af, Côrdydd
Côr Meibion - 1af, Eryrod Meirion
2il, Côr Meibion y Ddwylan

Côr Clasurol (Canu Traddodiadol) - 1af, Eryrod Meirion,
2il, Côr Dre

Cystadleuaeth Agored i Gorau - 1af, Côrdydd
2il, Eryrod Meirion

Y Perfformiad Gorau gan gôr na enillodd wobr - Côr Narfon

Y Perfformiad Gorau gan Gôr - Côrdydd

Llongyfarchiadau i Gôrdydd ar ennill Gwobr Côr yr Ŵyl a hynny’n gwbl haeddiannol ac i’w harweinydd Huw Foulkes, o Fethel, Arfon yn wreiddiol, am ei arweiniad egniol. Diolch am fynychu’r Ŵyl a gobeithio y dewch chi eto.

Yn y cystadlaethau ffidil, daeth James Magee yn drydydd yn y Gystadleuaeth i Unigolion dros 18 oed ac i James a Paul Magee ar ddod yn ail yn y Ddeuawd Ffidil. Da iawn chi hogia. I’r brîg unwaith eto ar Ganu’r Delyn dros 18 oed daeth Math Roberts. Llongyfarchiadau calonnog iawn iti unwaith eto. Ardderchog y tri ohonoch.

Ar y nos Sadwrn cyflwynwyd y tlysau i’r corau buddugol yn y gwahanol gategoriau yng Ngwesty’r Mount Errigal. Llongyfarchiadau i chi i gyd ac am eich gwaith caled wrth baratoi am yr Ŵyl. Yn ystod y sesiwn yma o wobrwyo, cyflwynwyd gacen penblwydd i Margiad Williams, Llanelwy i ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed. Mae Margiad wedi bod yn gefn mawr i Tegwyn wrth iddo drefnu i gael y Cymry drosodd i’r Ŵyl ers blynyddoedd maith. Llongyfarchiadau Margiad a diolch am bopeth.

Wrth i ni hel am adref ar y bore Sul yr argraff pennaf sy’n aros yn y côf yw cymaint o Gymry ifanc sydd bellach yn mynychu’r Ŵyl gyda’u bwrlwm ac afiaith. Hir y parhaed a daliwch i ddod! Diolch i bobl Letterkenny am eu croeso. Buan iawn yr hedfanith blwyddyn arall ac fe fyddwn yn ôl yno!


imageYr Ŵyl Ban Geltaidd (Welsh only available...)

Noson agoriadol - Mae ein hoff ganwr Ieuan ap Sion am ganu eleni (Can y Celtiaid) yn y noson agoriadol nos Fawrth y 3ydd o Ebrill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.
Wrth gwrs bydd Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw ar y llwyfan gydag ef.
Y noson wedyn bydd Gwilym Rhys a’i griw. Y brodyr Magee, Catrin Angharad a’i chriw yn ymgiprys am y tlysau yn y cystadlu Canu Traddodiadol.
Nos Iau bydd y gan a enillodd yn y gystadleuaeth Can i Gymru eleni yn y gystadleuaeth Can yr Ŵyl – pob llwyddiant i’r Grwp Ceidwad y Gan – pobl Sir Ddinbych yn meddwl y byd ohonynt .Rhewl yn enwedig.
Nos Wener – beth am ddod i’r cyngerdd yn y theatr yng nghanol y dref ( Letterkenny) ac wedyn i noson y Cymry yng Ngwesty y Mt Errigl.
Dydd Sadwrn – byddwn yn edrych ymlaen i weld ac i wrando ar y corau yn canu. Y Cymry yn gryf eto eleni – dewch ona Cor Dre, Cor Narfon, Cor Dydd, Eryrod Meirion, a Hogia’r Ddwylan.

Teithio adref ar y Sul – lle ar y bws ar hyn o bryd – dau .


Noson arbennig yn Pontio Bangor (Welsh only available...)

Noson arbennig yn Pontio Bangor – y gan fuddugol yn y gystadleuaeth Can i Gymru 2018 – cyfansoddwr Erfyl Owen ( Bov ) – perfformwyd y gân gan y grwp Ceidwad y Gân, prif leisydd Harri Owen mab Erfyl a Diane Owen. Teitl y gân – “Hedd Wyn”.


Cynhaliwyd Noson Arbennig Yn Ngwesty Y Stamford Gate Treffynnon ar y 17fed o Chwefror 2018 (Welsh only available...)

Da oedd croesawu nifer o ffyddloniaid yr Wyl Ban Geltaidd i’r noson.
Diolch yn fawr i Gwenan Gibbard, Dylan Cernyw a Ieuan ap Sion yn ein diddori a’r croeso gwych a gawsom gan berchennog y gwesty a’r staff.

i weld mwy o luniau - cliciwch yma


Reunion Of The Artists And Supporters Of The Pan Celtic

Friends,
Every year we hold a reunion of the artists and supporters of the Pan Celtic. Please come along to Stamford Gate Hotel Hollywell on Saturday the 17th of February. We always have a great time last year we were in Crymych. The hotel have prepared a menu – Chicken Curry with rice and chips or Lasagne with salad and garlic bread, Beef stew or Lamb Hotpot. – priced at £11 per head. You can order a pudding afterwards if need be. Interested contact Awen or myself – 01745 590869 or arwellroberts@tiscali.co.uk

 

To view our News archive dating back to 2011 please - click here