pic01

Manylion y Daith

Taith i Carlow / Ceatharlach, Iwerddon EBRILL 22 – 27 2025

Byddwn yn ymweld â’r dref uchod. Teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill 22 Bws cyffyrddus gyda cyfleusterau toiled arni. Cysyllter os oes gennych gyflwr meddygol, fyddai’n effeithio ar leoliad eich ystafell.

Costau y daith ( prisiau’n amodol, fe allent newid oherwydd ansicrwydd ariannol )

Gwesty’r 7 Derwen – Gwely a Brecwast. Dau yn rhannu y person £650. Sengl - £720

Mae’r costau uchod yn cynnwys:

Teithio ar y bws ar long o Gymru i Ceatharlach ac yn ôl.
Pum noson gwely a brecwast.
Cildwrn i’r gyrrwr.

Manylion y daith.

Gadael Llanelwy am chwech bore Mawrth – 22 o Ebrill ( trefnir y mannau codi eto.) Teithio am Gaergybi ar long 8:55 a.m i Ddulyn. Cyrraedd Dulyn tua un y pnawn ac ymlaen am dref yr Ŵyl. Aros am bum noson. Bydd cyfle i ymweld a gwahanol atyniadau yn yr ardal ar y bws yn ystod yr wythnos. Cychwyn am adref tua deg y bore Sul os bydd y cwmni bws wedi archebu lle ar y llong ganol pnawn, neu fe all fod yn llong hwyrach fydd yn cyrraedd Caergybi tua hanner nos.

Ernes :- £50 a’r gweddill erbyn canol Chwefror, pob siec yn daladwy I MUDIAD CYMRU GŴYL BAN GELTAIDD.
Neu drwy BACS – Mudiad Pan Geltaidd Pwyllgor Cymru. Cod didoli 54¬-41-11. Rhif y cyfri – 31017835 – enw’r banc Nat West. Mwy o fanylion gan Arwel, Fachwen Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP, ffon – 01745 590869 / 07813550998 / arwellroberts@tiscali.co.uk neu Tegwyn, Penbedw, Ffordd y Bryn, LLanelwy, LL17 0DD – Ffon 01745 583612.

Os y byddwch wedi talu’n llawn ac yn tynnu’n ôl oddi fewn i’r bythefnos cyn teithio anodd iawn fydd cyflwyno ad-daliad. Cofiwch fod gennych angen yswiriant teithio.